Offerynnau Statudol gydag Adroddiadau Clir

17 Gorffennaf 2017

SL(5)113 - Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae Deddf Addysg 2005 ("Deddf 2005") yn nodi'r fframwaith statudol ar gyfer arolygu ysgolion. Mae Deddf 2005 yn gadael llawer o'r manylion i'w rhagnodi yn y Rheoliadau. Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006 ("Rheoliadau 2006") yn nodi llawer o'r manylion hynny.

Mae Paragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod priodol (a ddiffinnir yn adran 43 o Ddeddf 2005) ar gyfer yr ysgol gynnal cyfarfod rhwng yr arolygydd sy'n cynnal yr arolygiad a rhieni y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol. Mae Rheoliad 8 o Reoliadau 2006 yn rhagnodi manylion y trefniadau ar gyfer y cyfarfod hwnnw. Yn benodol mae rheoliad 8(a) yn darparu bod yn rhaid cynnal cyfarfod cyn yr amser y mae'r arolygiad i fod i ddechrau. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 8(a) fel bod yn rhaid i’r cyfarfod gael ei gynnal heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl i'r arolygiad ddechrau (rheoliad 2).

Deddf Wreiddiol: Deddf Addysg 2005

Fe’u gwnaed ar: 27 Mehefin 2017

Fe’u gosodwyd ar: 30 Mehefin 2017

Yn dod i rym ar: 1 Medi 2017

 

 

 

 

SL(5)115 - Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2017

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (OS 2010/1379) i wneud nifer o ddiwygiadau technegol; hefyd i roi i Weinidogion Cymru y pwerau i weithredu rheolaethau ychwanegol i atal lledaeniad Twbercwlosis ac yn benodol, rhag iddo ymsefydlu mewn ardaloedd o Gymru sy'n gymharol rhydd o'r clefyd.

Deddf Wreiddiol: Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981

Fe’i gwnaed ar: 27 Mehefin 2017

Fe’i gosodwyd ar: 30 Mehefin 2017

Yn dod i rym ar: 1 Hydref 2017

SL(5)116 - Rheoliadau Cynllunio Gofal ac Adolygu Achosion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017

Gweithdrefn: Negyddol neu Gadarnhaol

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007, Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Gofal) (Cymru) 2015 a Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015. Mae'r diwygiadau yn gwneud darpariaeth ynghylch cynllunio ac adolygu gofal a chymorth ar gyfer pobl sy'n rhan o deulu sy'n cael cymorth gan dîm Integredig Cymorth i Deuluoedd, boed o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu o dan Ddeddf Plant 1989.

Deddf Wreiddiol: Deddf Plant 1989

Fe’u gwnaed ar: 26 Mehefin 2017

Fe’u gosodwyd ar: 30 Mehefin 2017

Yn dod i rym ar: 23 Gorffennaf 2017